Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
09.50
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) David Lakin (Cymorth Tîm) Owain Roberts (Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafodd y Pwyllgor ymddiheuriad gan David Rowlands. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar ei ran.
2 Adroddiad ar yr adolygiad o'r Cod Ymddygiad
2.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar yr adolygiad o’r Cod Ymddygiad a chytunodd arno.
2.2 Nododd y Pwyllgor y byddai’r Cod Ymddygiad diwygiedig a’r dogfennau cysylltiedig yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth.
3 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Reol Sefydlog 22
3.1 Trafododd yr Aelodau’r adrodd iad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 a chytunodd arno.
3.2 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
4 Adroddiad ar newidiadau i'r canllawiau ar gyfer cofrestru buddiannau
4.1 Croesawyd Owain Roberts, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd i’r cyfarfod.
4.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar newidiadau arfaethedig i’r canllawiau ar gyfer cofrestru buddiannau.
5 Adroddiad Monitro Grwpiau Trawsbleidiol 2021
5.1 Croesawyd Owain Roberts, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd i’r cyfarfod.
5.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad ar fonitro grwpiau trawsbleidiol yn y Bumed Senedd.
5.3 Nododd y Pwyllgor y materion i’w cynnwys yn ei adroddiad gwaddol.
6 Papur(au) i'w nodi